Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 12 Tachwedd 2014
 i'w hateb ar 19 Tachwedd 2014

 

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

 

Gofyn i'r Gweinidog Addysg a Sgiliau

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

 

1. Elin Jones (Ceredigion):A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynlluniau i gyflwyno system newydd o gategoreiddio ysgolion cynradd? OAQ(4)0492(ESK)W

 

2. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar y camau a gaiff eu cymryd i atal bwlio yn ysgolion Cymru? OAQ(4)0495(ESK)

 

3. Eluned Parrott (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar adnabod Anghenion Addysgol Arbennig? OAQ(4)0497(ESK)

 

4. Gwenda Thomas (Castell-nedd):A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr ymgyrch 'Ffocws ar Wyddoniaeth'? OAQ(4)0500(ESK)W

 

5. Jeff Cuthbert (Caerffili): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar brentisiaethau yng Nghymru? OAQ(4)0491(ESK)

 

6. Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu pa fesurau sydd ar waith i asesu cyrhaeddiad plant oed ysgol gynradd? OAQ(4)0490(ESK)

 

7. Lindsay Whittle (Dwyrain De Cymru): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i gynyddu canran y rhai sy'n gadael yr ysgol yng Nghymru sy'n gallu siarad Cymraeg? OAQ(4)0499(ESK)

 

8. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar weithredu'r fframwaith llythrennedd a rhifedd? OAQ(4)0488(ESK)

 

9. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar newidiadau i'r cwricwlwm TGAU yng Nghymru? OAQ(4)0498(ESK)

 

10. Sandy Mewies (Delyn): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am newidiadau i gymwysterau yng Nghymru? OAQ(4)0503(ESK)

 

11. Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar ei strategaeth ar gyfer addysg bellach? OAQ(4)0505(ESK)W

12. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar y camau a gaiff eu cymryd i atal absenoldeb disgyblion yn ystod y tymor? OAQ(4)0489(ESK)

 

13. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth yw cynigion y Gweinidog i wella ymarfer dysgu yng Nghymru? OAQ(4)0502(ESK)W

 

14. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu'r camau a gaiff eu cymryd gan Lywodraeth Cymru i atal ysgolion rhag cael eu cau? OAQ(4)0493(ESK)

 

15. Eluned Parrott (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am raglen Twf Swyddi Cymru yn ne Cymru? OAQ(4)0496(ESK)

 

Gofyn i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

 

1. Eluned Parrott (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar y problemau gorlenwi diweddar ar y rhwydwaith rheilffyrdd yng Nghymru? OAQ(4)0486(EST)

 

2. Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru o ran prynu tir sy'n gyfagos i gefnffyrdd? OAQ(4)0481(EST)

 

3. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer busnesau ar y stryd fawr? OAQ(4)0484(EST)

 

4. Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar y gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i fusnesau bach? OAQ(4)0491(EST)

 

5. Eluned Parrott (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y rhanbarthau dinas yng Nghymru? OAQ(4)0487(EST)

 

6. Lynne Neagle (Torfaen):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar y gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i fusnesau yn Nhorfaen? OAQ(4)0492(EST)

7. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am Ardaloedd Twf Lleol Powys? OAQ(4)0485(EST)

 

8. Jeff Cuthbert (Caerffili): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar y ddarpariaeth o gerbydau ar gyfer gwasanaethau rheilffordd ar lein Cwm Rhymni? OAQ(4)0482(EST)

 

9. Christine Chapman (Cwm Cynon): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella gwasanaethau rheilffyrdd yng Nghwm Cynon? OAQ(4)0483(EST)

 

10. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar y datblygiadau sy'n digwydd yn SA1? OAQ(4)0480(EST)

 

11. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynglŷn ag unrhyw welliannau arfaethedig i'r cysylltiad rhwng yr A55 a phorthladd Caergybi? OAQ(4)0479(EST)W

 

12. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynglŷn â gwella gwasanaethau rheilffordd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ(4)0493(EST)W

 

13. Mick Antoniw (Pontypridd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar berfformiad Maes Awyr Caerdydd? OAQ(4)0494(EST)

 

14. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar y broses ymgynghori sy'n gysylltiedig â Phrosiect Cysylltiad Canolbarth Cymru? OAQ(4)0476(EST)

 

15. Gwenda Thomas (Castell-nedd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar yr effaith economaidd y byddai'n gobeithio ei gweld o ganlyniad i greu Ardal Gwella Busnes yng Nghastell-nedd? OAQ(4)0490(EST)